Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Llun, 26 Tachwedd 2018

Amser: 13.29 - 14.45
 


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Rhianon Passmore AC

Adam Price AC

Jenny Rathbone AC

Swyddfa Archwilio Cymru:

Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Anne Beegan

Andrew Doughton

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, cafodd Adam Price AC ei enwebu gan Rhianon Passmore AC i'w ethol fel Cadeirydd dros dro o dan Reolau Sefydlog 17.22 a 18.6. Cytunodd y Pwyllgor ac etholwyd Adam Price AC fel Cadeirydd dros dro yn absenoldeb Nick Ramsay AC.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod Pwyllgor.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick Ramsay AC a Jack Sargeant AC.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunwyd y byddai'r Clercod yn anfon Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Wasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig ymlaen at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

</AI2>

<AI3>

2.1   Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

</AI3>

<AI4>

2.2   Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Gohebiaeth gan Gomisiwn y Cynulliad (20 Tachwedd 2018)

</AI4>

<AI5>

3       Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ledled Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

3.1 Briffiodd yr Archwilydd Cyffredinol yr Aelodau ar yr adroddiad, sef rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn os na all y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon drefnu'r mater hwn yn ei raglen waith.

</AI5>

<AI6>

4       Gwasanaethau radioleg – adroddiad cryno: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

4.1 Briffiodd yr Archwilydd Cyffredinol yr Aelodau ar y gwasanaethau radioleg – adroddiad cryno cenedlaethol.

4.2 Nododd y Pwyllgor y llwybr cadarnhaol yn y maes hwn a chytunodd i ofyn am ddiweddariadau ysgrifenedig rheolaidd gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi'r cynnydd wrth gyflawni'r cynllun gweithredu cenedlaethol.

</AI6>

<AI7>

5       Blaenraglen waith – Gwanwyn 2019

5.1 Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer tymor hydref 2018 a chytuno i wneud y canlynol:

·         Cynnal ymchwiliad i'r Fenter Twyll Genedlaethol;

·         Gwneud gwaith allgymorth fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau;

·         Gofyn am ddiweddariad ar reoli iechyd meddwl ar ôl yr adolygiadau a gynhaliwyd i ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ynghyd â diweddariad ar y system cymorth ac ymyriad ehangach a dargedir gan y llywodraeth sydd ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;

·         Cynnal ymchwiliad i Gyllid Busnes yn nhymor haf 2019;

·         Cynnal ymchwiliad i drefniadau llywodraethu yn Llywodraeth Cymru yn nhymor haf 2019; a

·         Nodi y trefnir i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad i gostau gweithwyr asiantaeth a locwm GIG Cymru yng ngwanwyn 2019 a, chan ddibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, gynnal ymchwiliad.

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>